Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (222)v2 |
Datganiad gan y Llywydd
Gwnaeth y Llywydd ddatganiad i nodi milfed Cyfarfod Llawn y Cynulliad ers ei sefydlu ym 1999. Dywedodd y Llywydd fod y Cynulliad heddiw yn sefydliad gwahanol iawn i’r un a gyfarfu gyntaf bymtheg mlynedd yn ôl, yn enwedig gan ein bod wedi cael pwerau deddfu ers 2011.
Dywedodd y Llywydd hefyd ei bod yn gobeithio y bydd llawer o newidiadau eraill i’r Cynulliad, dros gyfnod y mil nesaf o gyfarfodydd, gan gynnwys setliad sy’n gliriach ac yn haws ei ddeall, mwy o reolaeth gan y Cynulliad dros ei faterion a’i weithdrefnau mewnol ei hun, a chynnud yn nifer yr Aelodau i adlewyrchu cyfrifoldebau ehangach y Cynulliad.
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 5 a 7 eu grwpio. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Dechreuodd yr eitem am 15.00
Gofynnwyd y ddau gwestiwn.
4 Cynnig i ddiddymu Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014
Dechreuodd yr eitem am 15.05
NNDM5582 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:
Yn cytuno bod Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 18 Gorffennaf 2014, yn cael eu dirymu.
Tynnwyd y cynnig yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog12.27.
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ynghylch yr arferion gorau o ran y gyllideb
Dechreuodd yr eitem am 15.13
NDM5591 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i’r arferion gorau o ran y gyllideb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Gorffennaf 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch gwasanaethau orthodontig yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 15.48
NDM5590 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wasanaethau orthodontig yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Gorffennaf 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.24
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5593 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru, ynghyd â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, wedi sicrhau £95 miliwn o gyllid ychwanegol dros ddwy flynedd ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion yn y gyllideb newydd.
2. Yn croesawu bod cyllid hefyd wedi cael ei ymestyn i gynnwys Premiwm Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer plant o dan 5 oed.
3. Yn cydnabod bod y cytundeb cyllidebol dwy flynedd yn helpu i fynd i'r afael â'r pryderon a fynegwyd gan ysgolion ym mlynyddoedd blaenorol y cynllun o ran sicrhau bod cyllid yn parhau.
4. Yn cydnabod pwysigrwydd y ddau gynllun o ran helpu
i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol ac o ran
cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd
difreintiedig a chefndiroedd mwy breintiedig.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
19 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
8 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.23
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.24
NDM5594 Keith Davies (Llanelli)
Adfywio Trefol 2.0 - Creu cymunedau trefol a chanol trefi cynaliadwy.
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 17.45
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 14 Hydref 2014